SL(5)450 - Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb (Cymru a Lloegr) 2019
Cefndir a Diben
Mae Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb (Cymru a Lloegr) 2019 yn gwneud cywiriad technegol i sicrhau bod gwelliannau cynharach i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”) a wnaed gan Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 (OS 2019/22) (“Y Rheoliadau”) yn cael eu gweithredu'n briodol.
Roedd y gwelliannau yn y Rheoliadau yn disodli adran 11(2) o Ddeddf 1981 ac yn gwahardd lladd a chymryd carlymod oni bai bod hynny o dan awdurdod trwydded. Mae adran 16(3) o Ddeddf 1981 yn cynnwys y sail drwyddedu gymwys, ac o dan adran 16(3)(c) mae'n bosibl rhoi trwydded at ddibenion gwarchod anifeiliaid gwyllt. Yn y ddarpariaeth hon, fodd bynnag, nid yw “wild animals” yn cynnwys adar gwyllt.
Prif bwrpas lladd a chymryd carlymod yng Nghymru a Lloegr yw er mwyn gwarchod adar sy'n nythu ar y ddaear. Mae'r offeryn hwn yn mewnosod darpariaeth newydd yn adran 16 o Ddeddf 1981, sy'n darparu bod y sail drwyddedu yn adran 16(3)(c) yn cael ei darllen, i'r graddau y mae'n ymwneud â lladd a chymryd carlymod a waherddir o dan adran11(2), fel ei fod yn cynnwys gwarchod adar gwyllt.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu rhwymedigaethau'r UE mewn perthynas â thrapio carlymod heb greulondeb o dan drwydded at ddibenion gwarchod adar gwyllt sy'n nythu, ac felly bydd y Rheoliadau'n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
7 Hydref 2019